Wales

Trin hypos a gofalu am eich dannedd

Mae taflen newydd wedi’i chyhoeddi sy’n cynnwys cyngor i deuluoedd ynglŷn â sut i sicrhau na fydd trin hypo yn achosi problemau gofal dannedd anfwriadol i blant.

Gweithiodd Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gyda thîm diabetes pediatrig Bae Abertawe i lunio’r daflen gyngor.

“Y sbardun ar gyfer hyn oedd bod yn rhaid tynnu rhai o ddannedd un o’r plant rydym yn gofalu amdanynt gan eu bod wedi pydru cymaint,” esbonia Dr Chris Bidder, Ymgynghorydd Pediatrig tîm Abertawe.

“Fe wnaethom sylweddoli bod hyn fwy na thebyg yn gysylltiedig â defnyddio triniaeth glwcos ar gyfer hypos. Mae llawer o blant yn defnyddio diodydd sy’n cynnwys siwgr neu losin fel jelly babies i drin hypos, sy’n golygu bod eu dannedd yn dod i gysylltiad â siwgr.”

“Roeddem yn teimlo bod angen cyngor penodol a oedd yn cydnabod bod triniaethau ar gyfer hypos sy’n cynnwys glwcos yn angenrheidiol, ac felly rydym wedi teilwra’r cyngor ynglŷn â gofal dannedd i ystyried hynny.”

“Rydym yn ddiolchgar iawn i’n cydweithwyr sy’n rhan o’r Tîm Deintyddol Cymunedol, ac yn arbennig i Rohini Mohan, sy’n arweinydd arbenigol mewn deintyddiaeth pediatrig yma ym Mae Abertawe, am ein helpu i sicrhau bod y cyngor hwn yn berthnasol i blant sydd â diabetes Math 1.”

Bydd y taflenni’n cael eu dosbarthu i dimau yng Nghyfarfod Rhwydwaith Cymru ddiwedd mis Mawrth. Mae fersiynau PDF hefyd ar gael i’w lawrlwytho.

Fersiwn Gymraeg (PDF)

Fersiwn Saesneg (PDF)

Read this news story in English