Wales

Sut i Reoli Mamoth – llyfr i blant a theuluoedd sy’n byw gyda Diabetes math 1

20/04/2020

Mewn llyfr darluniau newydd wedi’i gyhoeddi gan GIG Cymru mae Jake, bachgen 8 oed sydd â Diabetes math 1, yn sôn am sut mae’n dysgu i fyw gyda mamoth o’r enw Mel. Yn Sut i Reoli Mamoth rhoddir syniadau ac awgrymiadau i Jake a’i deulu er mwyn gallu dod o hyd i ffyrdd o gyd-dynnu â Mel, hyd yn oed pan fydd yn annifyr iawn.

Sut i Reoli clawr

Ysgrifennwyd Sut i Reoli Mamoth gan Dr Rose Stewart, ac mae’n rhan o gyfres o gyhoeddiadau Trafod Math 1 sy’n cynnig cymorth seicolegol i bobl sy’n byw gyda Diabetes math 1. Cafodd ei lansio’n swyddogol yng nghyfarfod Rhwydwaith Diabetes Pobl Ifanc Cymru ym Merthyr Tudful ym mis Chwefror 2020.

Dr Rose Stewart

>>>>GWYLIWCH: Cyflwyniad Dr Rose Stewart yng Nghyfarfod y Rhwydwaith (Saesneg; link to YouTube)

“Roeddem yn awyddus i helpu teuluoedd feddwl am eu teimladau wrth fyw gyda diabetes,” esbonia Rose. “Weithiau mae’n debyg i fyw gydag anifail. Nid yw Mel yn ddrwg nac yn ddrygionus, ond gall darfu ar bethau, ac achosi problemau. Weithiau bydd yn achosi ffrae, ac yna ef yw canolbwynt y teulu.  Cyn pen dim mae gan Jake a’i fam famoth o broblem.”

Mel sat on Jake

“Felly, mae’n rhaid i Jake a’i fam gael cynllun i wneud Mel yn llai. Mae hynny’n golygu siarad â phobl eraill sy’n gofalu am anifail diabetes eu hunain, a siarad â’r tîm gofal iechyd sy’n dda iawn am allu helpu pobl i wneud y mamoth yn llai.

Jake's diabetes team

“Mae Jake a’i fam yn cytuno ar gynllun, a chyn pen dim mae modd rheoli maint Mel.”

Mel the Mammoth

Ceir gweithgaredd ar ddiwedd Sut i Reoli Mamoth sy’n gofyn i blant ysgrifennu neu dynnu llun o’i diabetes pe byddai’n anifail, a sut y byddai’n ymddwyn. “Cawsom lawer o adborth ar hynny gan bobl sydd â diabetes,” meddai Rose.

“Yn ôl rhai mae eu diabetes yn debyg i arth, ci bach neu hyd yn oed octopws! Mae’r gweithgaredd yn un llawn hwyl ac mae’n helpu plant i ddeall eu bod yn fwy na diabetes, gan wneud y broses o fyw gyda diabetes yn haws ei rheoli.”

“Mae hefyd yn ffordd i deuluoedd siarad am ddiabetes a’u teimladau am ddiabetes mewn ffordd wahanol, gan ei wneud yn llai brawychus neu ddiflas.

“Y peth pwysig i’w gofio yw ni fydd Mel yn diflannu.  Bydd bob amser yn rhan o Jake ac yn rhan o deulu Jake. Deall sut i dderbyn Mel a pharhau i wneud yr holl bethau y mae’n eu mwynhau yw’r ffordd y mae Jake yn dysgu sut i’w reoli yn y pen draw; a gobeithio y bydd y llyfr hwn yn helpu plant a’u teuluoedd i ddysgu sut i dderbyn eu diabetes hefyd”

Mae gan bob tîm pediatrig yng Nghymru gopïau o Sut i Reoli Mamoth i’w rhoi i deuluoedd.