Wales

English page

SEREN Connect

SEREN Connect coverYsgrifennwyd gan Sara Crowley, Cydlynydd Gofal Trosiannol Diabetes GIG Cymru ac Awdur SEREN Connect

Rhaglen addysg yw SEREN Connect a fydd yn helpu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i gefnogi pobl ifanc ac oedolion ifanc sy’n byw gyda diabetes Math 1 sy’n symud rhwng gwasanaethau gofal iechyd a newidiadau cydamserol eraill mewn bywyd. Fel rhaglen addysg, mae SEREN Connect yn canolbwyntio mwy ar sut brofiad yw byw gyda diabetes Math 1 yn hytrach na beth yw diabetes Math 1.

Lansiwyd SEREN Connect ym mis Medi 2019 yng Nghynhadledd Diabetes GIG Cymru i Weithwyr Proffesiynol, ar ôl cyfnod datblygu o 3 blynedd. (Gwyliwch y cyflwyniad lansio ar YouTube – Saesneg yn unig)

Mae SEREN Connect yn cynnig cyfle i dimau diabetes cael profiadau dysgu positif sy’n anelu at greu cysylltiadau gwell rhwng:
• gwasanaethau pediatreg a gwasanaethau oedolion
• pobl ifanc a’u timau gofal iechyd
• pobl ifanc a’u diabetes Math 1

Cyfnod o newid mawr

Mae dod yn oedolyn yn gyfnod o newid mawr ym mywydau pobl ifanc. I’r rhai sy’n byw gyda diabetes Math 1, gall y newidiadau hyn greu anhawster mawr iddynt o ran hunanreoli eu cyflwr ym mhob agwedd ar fywyd. Os ydym wir eisiau gweld newid o ran y canlyniadau, mae’n hanfodol gwella’r berthynas sydd gan berson ifanc â diabetes Math 1 yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. Er mwyn i bobl â diabetes gyflawni’r hyn a ddisgwylir ganddynt, mae angen iddynt gredu y gallant reoli diabetes ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae diabetes math 1 yn effeithio ar bob agwedd ar fywyd ac mae mwy i’w reoli na gadael y clinig, cymryd inswlin, bwyta’n iach, cyfrif carbohydradau a chadw’r apwyntiad nesaf yn y clinig.

Datblygiad a ffocws y rhaglen

Lluniwyd y cwrs gan brofiadau a gyda mewnbwn pobl ifanc ac oedolion ifanc sy’n byw gyda diabetes Math 1 yn ogystal â rhieni a theuluoedd y mae diabetes Math 1 yn effeithio arnynt, o Gymru a thu hwnt. Fe wnaeth gweithgor SEREN Connect ymgysylltu ag oedolion ifanc i nodi themâu allweddol y mae angen rhoi sylw iddyn nhw yn ystod y cyfnod hwn mewn bywyd. Fe wnaeth ddarganfod pa wybodaeth am reoli diabetes Math 1 oedd ei hangen fwyaf arnynt a datblygu gweithgareddau i fagu hyder ymysg pobl ifanc.

Cyfrannodd pob disgyblaeth sy’n gweithio ym maes gofal diabetes ar draws y saith bwrdd iechyd yng Nghymru, gan gynnwys ymgynghorwyr diabetes pediatreg ac oedolion, nyrsys arbenigol pediatreg ac oedolion, dietegwyr arbenigol pediatreg ac oedolion a seicolegwyr clinigol. Gofynnwyd am gyngor gan gydweithwyr o’r meysydd podiatreg, Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru ac ymarfer cyffredinol. Mae’r rhaglen yn cyd-fynd ag argymhellion Safon Cymru Gyfan ar gyfer Pobl â Diabetes sy’n Symud o Wasanaeth Pediatreg i Wasanaethau Oedolion yn y GIG yng Nghymru (2017 – Saesneg yn unig).

Canfu’r tîm datblygu fod llawer o’r wybodaeth a oedd ar gael eisoes yn dweud ‘siaradwch â’ch tîm gofal iechyd’. Nid yw hyn bob amser yn ddefnyddiol nac yn ymarferol, yn enwedig pan nad yw’r wybodaeth sydd ei hangen yn gyngor clinigol uniongyrchol neu’n gyngor uniongyrchol ar driniaeth. Mae SEREN Connect yn llenwi bwlch, gan greu gofod diogel a rhagweithiol lle y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl ifanc:
• drafod materion allweddol yn agored ac yn onest
• rhannu profiadau personol
• cydnabod buddugoliaethau a rhwystrau
• normaleiddio bywyd gyda diabetes Math 1.

Darparu gwybodaeth allweddol yn gynnar

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cydnabod pan fydd person â diabetes yn wynebu argyfwng ei fod eisoes wedi ymddieithrio ac yn ‘llosgi allan’. Mae SEREN Connect yn darparu’r wybodaeth a’r cyngor sydd eu hangen ar berson ifanc cyn y pwynt hwn fel rhan sefydlog o ofal diabetes. Nid yw’n disodli apwyntiadau clinigol, ond mae’n galluogi staff i ddarparu addysg sy’n briodol i’w hoedran a pharatoi pobl ifanc ar gyfer bywyd gyda diabetes Math 1 fel oedolyn ifanc. O ganlyniad, gall ymgynghoriadau clinig ganolbwyntio ar feysydd lle mae angen cefnogaeth bellach ar y person ifanc, newidiadau yn y driniaeth, ac agweddau mwy clinigol ar ofal. Y gobaith yw y bydd hyn yn arwain sgwrs o ansawdd gwell rhwng y person ifanc a’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol ac yn gwella ymgysylltiad.

MAE’R GYFRES O LYFRYNNAU SEREN CONNECT AR GAEL YMA

Mae SEREN Connect wedi’i rannu’n bedair sesiwn addysg grŵp a ddarperir dros gyfnod o 2 flynedd gan dîm amlddisgyblaethol sy’n cynnwys cymysgedd o ymarferwyr pediatreg ac oedolion. Mae aelodau o staff sy’n cyflwyno’r cwrs yn cael canllaw cynhwysfawr i’r cwricwlwm a chanllawiau hwylusydd, pecyn addysg y gellir ei ddefnyddio i ysgogi a hyrwyddo trafodaeth yn ystod sesiynau, a negeseuon i’w cofio ar ffurf llyfrynnau.

Gweithredu ledled Cymru

Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru wedi bod yn derbyn hyfforddiant mewn sgiliau hwyluso ac yn cael eu cefnogi gan Gydlynydd Trosiannol GIG Cymru i gyflwyno’r sesiynau cyntaf ar draws byrddau iechyd lleol. Mae adborth cynnar wedi bod yn gadarnhaol iawn:

‘Gan nad oedd rhai pethau erioed wedi effeithio arnaf fi’n bersonol, wnes i erioed addysgu fy hun amdanyn nhw. Mae hi mor braf meddwl y bydd gan bobl ifanc y wybodaeth hon drwy SEREN Connect. Roedd hyn i gyd yn bethau roedd yn rhaid i mi eu dysgu fy hun, yn y ffordd anghywir! ‘
– Oedolyn ifanc sy’n byw gyda diabetes Math 1

‘Rwy’n credu mai dyma’r hyn sydd wedi bod ar goll i ni fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol!’
– Ymgynghorydd Oedolion

Dull cyfannol

Y gobaith yw y bydd SEREN Connect yn newid y ffordd y mae gwasanaethau’n darparu gofal diabetes, gan gynnig dull mwy cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr hyn sy’n digwydd mewn bywyd o amgylch diabetes Math 1. Mae angen i bobl ifanc ddysgu sut i ymdopi â bywyd, gan wneud ychydig bach o le ar gyfer diabetes Math 1 ym mhopeth a wnânt. Bydd gwasanaethau a all gynnig lle ac amser pwrpasol ar gyfer hyn yn rhan hanfodol o gefnogaeth y mae mawr ei hangen ar gyfer oedolion ifanc.

Gyda’i ffocws unigryw ar ‘fyw gyda diabetes Math 1’, mae SEREN Connect yn nodi dull newydd o gyflwyno addysg am ddiabetes; mae’n galluogi sgyrsiau newydd yn ogystal â gwella addysg i bobl â diabetes Math 1 a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Gyda’r adnodd hwn i’w helpu, gall timau baratoi pobl ifanc ar gyfer yr heriau niferus sy’n codi wrth iddynt ddod yn oedolion ifanc annibynnol – a sicrhau eu bod yn barod i gyflawni’r heriau hyn yn llwyddiannus.

I gael rhagor o wybodaeth am gymorth drwy SEREN Connect, cysylltwch â Sara Crowley

MAE’R GYFRES O LYFRYNNAU SEREN CONNECT AR GAEL YMA