Wales

Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc yn tynnu sylw at gynnydd er gwaethaf yr “her enfawr” o weithio drwy bandemig

Report coversMae Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc (a Grŵp Aberhonddu) wedi cyhoeddi ei bumed Adroddiad Blynyddol, sy’n cwmpasu’r flwyddyn 2020 a’r aflonyddwch i wasanaethau yn sgil pandemig y Coronafeirws.

“Fel Rhwydwaith rydym wedi dysgu llawer yn ystod y pandemig hwn,” meddai Dr Davida Hawkes, Cadeirydd y Rhwydwaith ac Arweinydd Clinigol.

“Rydym wedi cofnodi rhai o’r pethau a ddysgwyd yn yr adroddiad blynyddol eleni, gan fod timau wedi gweld newidiadau cyflym o ran y modd y darperir gwasanaethau.

“Rydym wedi gweld yn benodol pa mor bwysig yw parhau i rannu’r negeseuon am symptomau diabetes er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael diagnosis diogel ac yn dychwelyd i weithgareddau arferol yn gyflym. Ar adeg pan oedd y GIG dan straen anhygoel, mae timau ledled Cymru wedi gweithio’n galed i ddiogelu teuluoedd sy’n byw gyda diabetes Math 1 a gofalu amdanynt.”

Effeithiodd y pandemig ar gynlluniau’r Rhwydwaith i ddathlu ei Ben-blwydd yn bump oed ac mae’r Adroddiad Blynyddol yn cynnwys adran arbennig sy’n adolygu pum mlynedd gyntaf y Rhwydwaith.

“Er gwaethaf y newidiadau a orfodwyd arnom, mae rhai pethau gwych i’w hadrodd am 2020,” meddai Davida. Er enghraifft lansiwyd Sut i Reoli Mamoth, adnodd seicoleg newydd i deuluoedd. Hefyd, mae ein Grŵp SEREN wedi cyflawni carreg filltir gyntaf bwysig ar gyfer addysg strwythuredig pediatreg (saesneg yn unig) ac wedi darparu adnoddau newydd rhagorol i dimau.”

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys meincnodi data archwilio o’r Archwiliad Diabetes Paediatreg Cenedlaethol (NPDA) diweddaraf. Mae hyn yn cynnwys dangosyddion perfformiad a chanlyniadau, a mynediad at bympiau inswlin.

Mae’r Adroddiad ar gael i’w ddarllen ar-lein yn Gymraeg a Saesneg (yn agor ar ffurf PDF).

I wneud cais am gopi wedi’i argraffu, anfonwch e-bost at Jon Matthias, Rheolwr y Rhwydwaith