Wales

Darllenwch yn saesneg

Gwaith Diabetes GIG Cymru yn Ennill Sawl Gwobr Genedlaethol

Mae timau’r GIG ledled Cymru yn dathlu ar ôl cael noson lwyddiannus yn negfed seremoni Wobrwyo flynyddol Ansawdd mewn Gofal (QiC) Diabetes.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo Ansawdd mewn Gofal Diabetes yn rhithiol ddydd Iau 15 Hydref. Mae Ansawdd mewn Gofal Diabetes yn cydnabod y mentrau sy’n gwella ansawdd bywyd i bobl sy’n byw gyda diabetes, a chânt eu beirniadu gan y GIG, cleifion a’r diwydiant. Noddir y Gwobrau gan Sanofi Medical.

“Mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych i rannu’r gwaith ysbrydoledig a wneir ledled y wlad ac yn gyfle i ni allu dangos cymaint yr ydym yn gwerthfawrogi’r rhai sy’n ymdrechu i wella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir i gleifion â diabetes,” meddai’r Athro Mike Baxter, Arweinydd Therapi Diabetes, Sanofi Medical.

“Mae’r GIG wedi dangos yn glir ei fod yn awyddus i fod yn sefydliad sy’n dysgu ac mae’r gwobrau hyn yn gam pwysig er mwyn gallu lledaenu arfer da i gynulleidfa ehangach a sbarduno’r broses o wella gwasanaethau neu ysbrydoli prosiectau newydd.”

Prif enillydd y noson oedd SEREN Connect, sef rhaglen addysg diabetes sy’n cynorthwyo pobl â diabetes Math 1 i symud i wasanaethau oedolion, gan ennill Gwobr Rhaglenni Addysg Diabetes: Pobl sydd â Diabetes a Gwobr Arbennig y Beirniaid, sef cais y mae’r panel o feirniaid wedi’i ddewis “y mae’r beirniaid o’r farn ei fod yn haeddu clod a chydnabyddiaeth arbennig o ganlyniad i waith sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran gofal diabetes neu rywbeth arloesol.”

Caiff SEREN Connect ei ariannu gan Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan a’i gyflwyno ym mhob bwrdd iechyd. Dywedodd y beirniaid ei fod: “… wedi creu llawer o argraff arnynt , ac mae’r canlyniadau’n anhygoel. Mae’n defnyddio amser, arian ac adnoddau clinigol yn y ffordd fwyaf effeithiol, gan ddangos ei fod yn cynnwys grŵp o gleifion sy’n anodd eu cyrraedd.  Adnodd yw hwn a ddatblygwyd yn ofalus i gynnwys ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys pobl ifanc, gan lenwi bwlch yn y gwasanaeth a lleihau amrywiaeth yn y gofal pontio. Mae’n amlwg fod pawb yn ei gymeradwyo’n fawr, ac mae nifer y gweithwyr iechyd proffesiynol a hyfforddwyd yn dangos pa mor eang ydyw erbyn hyn.”

Cyrhaeddodd dau ymgeisydd o GIG Cymru y rownd derfynol yn y categori Gwasanaethau Arbenigol Math 1. Enillodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wobr gyda’i gais “Tyfu i Fyny, Symud Ymlaen – Cynorthwyo Pobl Ifanc sy’n Gadael Gwasanaethau Pediatrig”, am ei wasanaeth ar ei newydd wedd sy’n cynorthwyo pobl ifanc yn ystod y ‘Cyfnod Pontio’.  Dywedodd y beirniaid fod “y cais hwn yn enghraifft ddelfrydol o’r hyn ddylai fod yn digwydd yn y diwydiant. Gan ddechrau’n fach a thyfu, bu iddo wella ac arddangos effeithiau cadarnhaol y broses o wneud diagnosis a rheoli diabetes math 1. Heb os, mae’n llwyddo i gyflawni hyn ar raddfa fawr!”

Cyrhaeddodd Hypo Dino, llyfr a gyhoeddwyd gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc, y rownd derfynol yn yr un categori.  Disgrifiodd y beirniaid y llyfr fel “darn o waith hyfryd …. Dyma brosiect bendigedig a stori wych. Mae’r ffaith bod y llyfr wedi’i ysgrifennu a’i ddarlunio gan blant, a bod y neges yn un ddefnyddiol a difrifol iawn hefyd, wedi creu llawer o argraff arnom.  Ysbrydoledig iawn.”

Derbyniodd awduron Hypo Dino, Katie Courtney ac Ava Morgan, y Wobr Arwyr Tawel am ysgrifennu’r llyfr, a dywedodd y beirniaid “Llwyddodd y ddwy ferch ifanc i sôn am bwnc bwysig a chyflawni rhywbeth arbennig drwy greu’r llyfr Hypo Dino ar eu liwt eu hunain. Dyma stori bwerus iawn ac mae’r ddwy ferch ifanc hyn yn anhygoel.”

The Swansea Bay team with Katie and Ava

Un arall a ddaeth i’r brig ar y noson oedd Dr Rose Stewart, gan gipio’r wobr Cyfraniad Eithriadol am Wasanaethau ym maes Diabetes yn GIG Cymru yn ogystal â’r Wobr Arwyr Tawel. Arweiniodd Rose y rhaglen Trafod Math 1, gan greu adnoddau a gaiff eu defnyddio gan dimau ledled Cymru i gynorthwyo pobl â diabetes o ran bodloni eu hanghenion iechyd a lles meddyliol. Cafodd Trafod Math 1 Gymeradwyaeth Uchel yn y categori Cadw’r Meddwl a’r Corff yn Iach gyda’i Gilydd, a dywedodd y beirniaid ei fod yn “ddull arloesol a newydd ac yn rhywbeth sy’n wirioneddol ei angen. Mae’n llenwi’r bwlch o ran cymorth seicolegol a derbyniodd lawer o adborth gan wahanol ddefnyddwyr. Mae’n arddangos effaith y prosiect yn glir.”

Cais buddugol arall o Gymru oedd Cynllun Peilot Ymyriadau Byr i Sicrhau Ansawdd Cyn-Diabetes Cymru Gyfan, a hynny y tro hwn yn y categori Atal, Dileu a Diagnosis Cynnar. Cafodd llwybr Cyn-Diabetes Cymru Gyfan ei dreialu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, a gwelwyd canlyniadau anhygoel tra’n cynorthwyo pobl sydd â chyflwr cyn-diabetes i wella eu canlyniadau iechyd. Meddai’r beirniaid: “Roedd yn amlwg bod y cais hwn yn un buddugol, gan ei fod yn defnyddio dull wedi’i dargedu o ganfod y cleifion sydd fwyaf ei angen. Roedd y cais hwn yn sefyll allan gan ei fod yn un arloesol ac yn hynod gost-effeithlon a bod modd ei ehangu’n gyflym hefyd.  Llwyddodd y rhaglen i ddarparu canlyniadau gwych i gleifion yn ogystal â grymuso’r cynorthwywyr gofal iechyd dan sylw hefyd. Rhaglen arbennig iawn!”

Cyrhaeddoddd Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro o rownd derfynol yn y categori Llwybr Gofal Cleifion, Eilaidd a Chymunedol am ei waith arloesol ym maes podiatreg i Ddatblygu Clinig ‘Galw i mewn’ Cymunedol ar gyfer Clefyd Traed Diabetig. Meddai’r beirniaid “Dyma brosiect syml ond effeithiol sydd â’r potensial i gael ei weithredu ar raddfa fawr ac yn gyflym ym mhob maes gofal diabetes.  Mabwysiadodd y rhai sy’nr han o’r fenter hon agwedd ‘ddiffwdan’ sy’n targedu is-grŵp penodol o’r boblogaeth, sy’n syniad gwych. Mae’r prosiect hwn yn sicrhau mai cleifion yw canolbwynt ei waith ac mae’n edrych ar anghenion unigol pob person sy’n cymryd rhan.”

I gloi, Wendy Gane MBE, sef Cadeirydd Grŵp Cyfeirio Cleifion Cymru Gyfan ac eiriolwr i bobl sydd â diabetes, oedd un o’r tri a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer Gwobr y Bobl, sef categori arbennig, gyda chefnogaeth Diabetes UK, sy’n cydnabod unigolion sy’n cynorthwyo ac yn gofalu am bobl â diabetes.

Mae gwybodaeth am bob un o’r prosiectau hyn a enillodd wobr ar gael. Cysylltwch â Lois Underwood o Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan gydag unrhyw ymholiadau. Ei chyfeiriad e-bost yw Lois.Underwood@wales.nhs.uk

 

RHESTR LAWN O ENILLWYR A THEILYNGWYR CYMRU

Cadw’r Meddwl a’r Corff yn Iach gyda’i Gilydd

CYMERADWYAETH UCHEL: Trafod Math 1 – Sicrhau bod Gwasanaeth Seicoleg Diabetes ar gael i Bawb

(Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan)

Rhaglenni Addysg Diabetes: Pobl sydd â Diabetes

ENILLYDD: SEREN Connect: Addysg Diabetes Holistaidd i Oedolion Ifanc

(Cydweithrediad GIG Cymru / Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan)

Gwasanaeth Arbenigol Math 1

ENILLYDD: Tyfu i Fyny, Symud Ymlaen?? – Cynorthwyo Pobl Ifanc sy’n Gadael Gwasanaethau Pediatrig

(Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg)

ROWND DERFYNOL: “Hypo Dino – Ysgrifennwyd gan Blant i Ysbrydoli Eraill”

(Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc)

Llwybr Gofal Cleifion, Eilaidd a Chymunedol

ROWND DERFYNOL – Datblygu Clinig ‘Galw i Mewn’ Cymunedol i Gleifion Clefyd Traed Diabetig

(Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro)

Atal, Dileu a Diagnosis Cynnar

ENILLYDD: Cynllun Peilot Ymyriadau Byr i Sicrhau Ansawdd Cyn-Diabetes Cymru Gyfan

(Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe / Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan)

Gwobr Arbennig y Beirniaid

ENILLYDD: SEREN Connect: Addysg Diabetes Holistaidd i Oedolion Ifanc

(Cydweithrediad GIG Cymru / Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan)

Gwobr Cyfraniad Eithriadol am Wasanaethau ym maes Diabetes yn GIG Cymru

Dr Rose Stewart, Prif Seicolegydd Clinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwobr Arwyr Tawel

ENILLYDD: Katie Courtney ac Ava Morgan, Awduron Hypo Dino

ENILLYDD: Dr Rose Stewart, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Gwobr y Bobl

ROWND DERFYNOL – Wendy Gane MBE, Cadeirydd, Grŵp Cyfeirio Cleifion Cymru Gyfan

Beth yw Ansawdd mewn Gofal (QiC) Diabetes?

Mae Ansawdd mewn Gofal (QiC) Diabetes yn cydnabod, yn gwobrwyo ac yn rhannu arfer arloesol ac yn arddangos ansawdd mewn rheoli, addysgu a gwasanaethau diabetes i bobl sydd â diabetes a/neu eu teuluoedd.