Wales

Rhwydwaith Cymru yn cyhoeddi Llwybr Gofal Integredig Cetoasidiosis Diabetig (DKA) wedi’i ddiweddaru

Mae fersiwn wedi’i diweddaru o Lwybr Gofal Integredig DKA, sy’n adlewyrchu canllawiau diweddaraf BSPED ac ISPAD, wedi’i chyhoeddi gan Rwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc.

Llwybr cenedlaethol dros dro yw hwn a fydd yn cael ei gwblhau ar ôl i ganllawiau NICE gael eu rhyddhau yng Ngwanwyn 2021. Dosbarthwyd nifer cyfyngedig o gopïau i arweinwyr clinigol diabetes pediatreg yng Nghymru.

Esboniodd Dr Nirupa D’Souza a Dr Ambika Shetty, sydd wedi hyrwyddo Llwybr Gofal Integredig DKA yng Nghymru, yr angen i gyhoeddi:

“Rydym yn ymwybodol bod arfer gorau o ran trin DKA wedi newid. Mae hyn yn rhannol oherwydd pryderon a godwyd yma yng Nghymru sydd bellach wedi’u hystyried ledled y DU.

“Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i fabwysiadu llwybr cenedlaethol ar gyfer trin DKA ac mae hyn wedi dod yn arfer sefydledig mewn ysbytai ledled Cymru. Felly roedd angen i ni ddiweddaru ein dogfennau i adlewyrchu newidiadau mewn arfer gorau a sicrhau bod plant yn cael y driniaeth fwyaf priodol ar gyfer DKA.”

Gellir lawrlwytho’r llwybr newydd yma: Llwybr Gofal Integredig DKA 2020 Cymru gyfan (PDF) (Saesneg yn unig)

Mae sleidiau addysgol at ddibenion hyfforddi staff hefyd ar gael – LAWRLWYTHO