Wales
Adroddiad Blynyddol yn amlygu’r cynnydd yng Nghymru yn ystod pedwaredd flwyddyn y rhwydwaith
Mae Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc (a Grŵp Aberhonddu) wedi cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2019.
“Ysgrifennwyd yr adroddiad hwn tra bod timau ledled Cymru yn wynebu her enfawr yn sgil y pandemig byd-eang,” meddai Dr Davida Hawkes, Cadeirydd Rhwydwaith Diabetes Cymru i Blant a Phobl Ifanc.
“Yn y sefyllfa gythryblus hon mae’n werth edrych yn ôl a myfyrio ar y cynnydd a wnaed yn ystod cyfnod tawelach.”
Yn 2019 lansiwyd rhaglenni SEREN newydd o’r enw SEREN Active a SEREN Connect, a chyhoeddwyd y llyfr cyntaf y Rhwydwaith a ysgrifennwyd gan blant â diabetes, Hypo Dino. Cafodd Cymru lwyddiant yng Ngwobrau Diabetes Ansawdd mewn Gofal. Cysylltodd y Rhwydwaith hefyd ag OneBloodyDrop i drefnu taith gerdded i deuluoedd â phlant â Diabetes Math 1 i fyny Pen y Fan.
Mae’r adroddiad blynyddol yn cynnwys meincnodi data archwilio o’r set ddiweddaraf o ganlyniadau Archwiliad Diabetes Pediatreg Cenedlaethol (NPDA). Mae hyn yn cynnwys dangosyddion perfformiad a chanlyniadau, a mynediad at bympiau inswlin. Er y gwnaed cynnydd sylweddol yn ystod blynyddoedd cyntaf y Rhwydwaith, mae amrywiad o hyd rhwng ysbytai yng Nghymru. Mynd i’r afael â hyn yw un o nodau strategol allweddol y Rhwydwaith yn y flwyddyn i ddod.
Mae’r Adroddiad ar gael i’w ddarllen ar-lein yn Gymraeg a Saesneg.
I wneud cais am gopi wedi’i argraffu, anfonwch e-bost at Jon Matthias, Rheolwr Rhwydwaith